Jodie Whittaker

Jodie Whittaker
Ganwyd3 Mehefin 1982, 17 Mehefin 1982 Edit this on Wikidata
Skelmanthorpe Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Lloegr Lloegr
Alma mater
Galwedigaethactor, actor llwyfan, actor ffilm Edit this on Wikidata
PriodChristian Contreras Edit this on Wikidata

Actores Seisnig yw Jodie Auckland Whittaker (ganed 3 Mehefin 1982). Daeth i amlygrwydd gyntaf yn 2006 yn ei ffilm nodwedd gyntaf Venus, dan dderbyn enwebiadau Gwobr British Independent Film a Gwobr Satellite. Yn ddiweddarach fe'i ganmolwyd am ei rhannau yn y ffilm ffuglen wyddonol gwlt Attack The Block (2011), pennod "The Entire History of You" o Black Mirror (2011), ac y fam alarus Beth Latimer yng nghyfres deledu Chris Chibnall, Broadchurch (2013-2017).

Ar 16 Gorffennaf 2017, cyhoeddwyd fod Whittaker wedi ei chastio fel cymeriad y Doctor yn y gyfres deledu boblogaidd Doctor Who, y trydedd-ar-ddeg ymgnawdoliad o'r cymeriad a'r fenyw gyntaf yn y rhan. Bydd yn cymryd yr awenau ym mhennod Nadolig arbennig "The Doctors" yn Rhagfyr 2017.[1] Bydd yn cychwyn ar y gyfres ynghyd â Chris Chibnall, a fydd yn dechrau fel cynhyrchydd a phrif awdur y gyfres.

  1. "Doctor Who: Jodie Whittaker is to replace Peter Capaldi in the Time Lord regeneration game". The Daily Telegraph. 16 Gorffennaf 2017. Cyrchwyd 16 Gorffennaf 2017.

From Wikipedia, the free encyclopedia · View on Wikipedia

Developed by Tubidy